Saturday 16 May 2020

Pendroni…Rhywedd a’r Troubles yng Ngogledd Iwerddon [Pondering...Gender and the Troubles in Northern Ireland]

Mari Elin Wiliam 
Lecturer in Modern History/ Darlithydd Hanes Modern
e.wiliam@bangor.ac.uk

Deillia’r pendroni yma o ffynonellau gweledol a thrafodaethau ar y modiwl is-raddedig Nationalism in the UK 1916-1997. Diolch o galon i grŵp 2019/2020 am eu brwdfrydedd a’u hysbrydoliaeth / These ponderings stem from visual sources on the Troubles in Northern Ireland and associated discussions in the undergraduate module Nationalism in the UK 1916-1997. Heartfelt thanks to the 2019/2020 group for their enthusiasm and inspired observations in class.

Ym mis Chwefror 2020 roedd Sinn Féin yn ymfalchïo yn ei llwyddiannau yn etholiad cyffredinol Gweriniaeth Iwerddon.  Merched a ddominyddai’r delweddau o’r dathlu: yn benodol, Llywydd Sinn Féin, Mary Lou McDonald, a Michelle O’Neill, ei his-lywydd a Dirprwy Brif-Weinidog yng ngweinyddiaeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon.  Gydag Arlene Foster yn arwain y Democratic Unionist Party (DUP) ac yn Brif-Weinidog yn Stormont, mae’r sbectrwm gwleidyddol - o’r Gweriniaethwyr i’r Unoliaethwyr - ar droad degawd newydd yn fwrlwm o ferched. 

Fodd bynnag, ffenomenon go ddiweddar yw i ferched fod ar flaen y gad yn cynrychioli gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon: am ddegawdau yn dilyn cychwyn y Troubles yn 1968 delwedd wrywaidd iawn oedd i’r ymrafael.  Er mai cymedroldeb protestiadau’r Northern Ireland Civil Rights Association (sefydlwyd 1966) a amlygodd y rhagfarn sectyddol a wynebai’r lleiafrif Catholig yng Ngogledd Iwerddon, militariaeth a saernïodd y gwrthdaro fel un gwaedlyd a hirdymhorol.  Rhwng grwpiau parafilwrol fel yr IRA (Irish Republican Army) gweriniaethol, a’r UVF (Ulster Volunteer Force)/ UFF (Ulster Freedom Fighters) Teyrngarol, portreadwyd cymunedau mewn llefydd megis Belfast a Derry fel rhai dan reolaeth dynion mewn balaclafas oedd wedi’u harwisgo â gynnau AK47.  Pan anfonwyd y Fyddin Brydeinig ar strydoedd Gogledd Iwerddon i ‘gadw trefn’ o 1969 ymlaen, atgyfnerthwyd yr ymdeimlad macho wrth i ddisgwrs rhyfelgar am ‘wrhydri’ ac ‘arwriaeth’ gael ei ddyrchafu o’r naill ochr.  Y tu hwnt i’r iwnifform, dynion yr eithafion hefyd oedd prif ladmeryddion y Troubles: o Gerry Adams a Martin McGuinness yn eirioli ar ran Sinn Féin/IRA, i ‘r efengylwr unoliaethol Ian Paisley yn tanio o blaid Protestaniaid a grwpiau Teyrngarol. 

Bron yn awtomatig felly, lluniwyd yr hanes fel un ‘dynion’, ac yn sicr yn un ‘gwrywaidd’ ei naws. Er fod gan ferched bresenoldeb mewn hanesion o’r Troubles, gan amlaf gosodwyd hwy ar y cyrion, mewn rôl famol/gofalgar neu fel dioddefwyr:  straeon sy’n rhy gyffredin i gynhyrfu llawer o sylwebwyr, neu’n fawr mwy nac addurn i’r brif ffrwd wrywaidd.

Yn ei hymchwil ar ‘Brotest Fudr’ y cyfnod 1978-1981 mae’r hanesydd Rachel Oppenheimer yn feirniadol o’r duedd i ynysu ysgolheictod ar ferched yn y Troubles i flwch ‘hanes merched’, gan fod hynny’n cyfrannu at eu hesgeuluso o naratifau canolog.  Roedd y gwrthsafiad ‘Budr’ – a nodweddwyd gan garcharorion yn lledaenu baw ac wrin ar hyd waliau eu celloedd - yn gydran o Ryfel Carchar Gweriniaethwyr Gwyddelig wrth iddynt hawlio nad oeddent yn droseddwyr cyffredin, a gan hynny’n haeddiannol o statws fel carcharorion gwleidyddol.  Er mai protest y dynion yng ngharchar y Maze sydd yn cael ei phortreadu fel yr un arwyddocaol (wrth iddynt feithrin gwalltiau a barfau hir a’u hymdebygai i Grist), roedd merched yng ngharchar Armagh hefyd yn gwrthdystio, ond mewn modd mwy trawiadol byth wrth i’w celloedd hwy gael eu patrymu gan ysgarthion, gwaed mislif, tamponau a phadiau hylendid.  Yn 1980 smyglwyd ffotograff o Mairéad Farrell allan o’i chell yn Armagh: ffotograff eiconig gan ei fod herio gwerthoedd cymdeithasol ceidwadol a phatriarchaidd (Catholig a Phrotestannaidd), yn ogystal â bod yn symbol o Weriniaetholdeb.  Yn hytrach na delwedd o ferch oddefgar, fregus oedd yn ddibynnol ar ddynion i’w hamddiffyn, ymddangosai Farrell yn feiddgar a chadarn mewn protest wleidyddol oedd yn ategu’r un yn y Maze, ond hefyd yn mynd gam ymhellach – ac yn rhy bell i rai Gweriniaethwyr – gan danseilio’r tabŵ ar y mislif.  Trwy edrych ar y ‘Brotest Fudr’ yn Armagh a’r Maze yn gyfochrog datgelir nid yn unig haenau amrywiol o Weriniaetholdeb, ond hefyd gymhlethdodau rhywedd yn gymysg â’r Troubles.



Adlewyrchir hyn hefyd trwy gymryd cipolwg ar Bernadette Devlin, ymgyrchydd hawliau sifil a etholwyd fel Aelod Seneddol (AS) Unity/Annibynnol dros Ganolbarth Ulster yn 1969.  Yn 21 oed hi oedd y ferch ieuengaf ar y pryd i ddod yn AS, a rhwng ei hoed, ei rhyw a’i hagwedd gwrth-sefydliadol roedd yn tramgwyddo mewn amryfal ffyrdd ar arferion ‘gwrywaidd’ gwleidyddiaeth seneddol a pharafilwrol yr oes.  Amlygwyd hynny yn sgîl Bloody Sunday yn 1972, pan laddwyd 14 o drigolion gan y Fyddin Brydeinig yn ystod gorymdaith hawliau sifil yn Derry.  Roedd Devlin ar yr orymdaith hon, a’r diwrnod canlynol roedd yn y Tŷ Cyffredin i wneud safiad ar ran y dioddefwyr a’u teuluoedd.  Cythryddwyd hi i’r fath raddau gan oerni a diffyg edifeirwch yr Ysgrifennydd Cartref Ceidwadol, Reginald Maudling, nes iddi roi slap iddo yn y siambr.  Mewn cyfweliad yn fuan iawn wedyn gyda thyrfa o ohebwyr cyhuddwyd hi o fod yn ‘emotional’ ac ‘unladylike’, gyda geirfa fisogynistaidd o’r fath yn cael ei ddefnyddio i’w difrïo a’i chyfleu fel ‘hogan bach ddrwg’.  Roedd yn eironig fod llawer o’r wasg yn dewis canolbwyntio ar ‘drais’ Devlin - gan ei fod yn herio normau rhywedd - yn hytrach na’r trais milwrol marwol oedd wedi ennyn ei hatgasedd yn y lle cyntaf.  Mewn modd clinigol, gwrthododd Devlin wahoddiad un o’r gohebwyr i ymddiheuro i Maudling, gan nodi’n gadarn ‘I’m just sorry I didn’t get him by the throat’, a labelodd y digwyddiad fel ‘simple proletarian protest.’  Er fod cynhyrchwyr ffilm wedi cael eu denu at fywyd Devlin, hyd-yn-hyn cyfyngedig yw’r sylw academaidd iddi.  Mae’n ffigwr coeth i’w hastudio, nid yn unig o bersbectif rhywedd, ond hefyd fel un a roddai bwyslais cytbwys ar sosialaeth ynghyd â Gweriniaetholdeb Wyddelig (bu’n flaenllaw wrth sefydlu plaid fyrhoedlog yr Independent Socialist Party ddiwedd y 1970au), ac a ddewisodd, mewn cyferbyniad â Sinn Féin, eistedd yn y Tŷ Cyffredin, gan ei gosod ar lwybr mwy cyfansoddiadol (er gwaethaf natur ei rhethreg!) yn braf cyn i Adams a McGuinness ddechrau gwyro oddi wrth genedlaetholdeb grym-ffisegol yn ystod y 1980au. 


Yng Ngogledd Iwerddon mae murluniau’n ffyrdd o gofnodi a siapio’r cof cymdeithasol, a dengys y ffaith fod Devlin wedi cael ei murlunio yn y Bogside yn Derry ei dylanwad ar y gymuned honno.  Ond, fel y gwelir gyferbyn, nid Devlin yw’r unig ferch i gael ei darlunio: mae hi’n cyd-sefyll gyda ddynes anhysbys yn dal caead bin, mewn cyfeiriad at yr arferiad mewn cymunedau Catholig i ferched guro’r caeadau yn swnllyd i rybuddio (dynion fel arfer) fod y Fyddin Brydeinig ar patrol.  Gymaint oedd arwyddocâd y ddefod yma nes iddi hefyd gael lle canolog ar furlun Mná na hÉireann (Merched Iwerddon) a ddadorchuddiwyd yn 2014, hefyd yn y Bogside.  Yn hwn nid oes lle i Devlin, ond yn ei brysurdeb mae’n cyfleu ystod o brofiadau hanesyddol merched wnaeth herio gafael Prydain ar Iwerddon: o Brotestaniaid a Ffeniaid yn y 18fed a’r 19eg ganrif, i Constance Markievicz, yr unig ddynes i gael ei dedfrydu i farwolaeth yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn 1916 (cymudwyd hyn, ac yn 1918 hi oedd y ferch gyntaf i gael ei hethol i’r Tŷ Cyffredin).  Mae’n portreadu merched mewn rôl parafilwrol, ar ffurf y Cumann na mBan, yn ogystal ag unigolion fel Ethel Lynch, gwirfoddolwr i’r IRA a laddwyd mewn ffrwydriad yn 1974.  Dangosir merched ar brotest y flanced gyda’r slogan ‘Do you care?’.  Gallai hyn fod yn gwestiwn i’r awdurdodau, ond hefyd i’r gymuned Weriniaethol ehangach yn wyneb eu ffafriaeth hanesyddol i naratif y dynion oedd dan glo.  Clodforir merched yn ogystal am eu rôl mwy ‘traddodiadol’ fel dioddefwyr a galarwyr, mewn murlun sy’n trwytho’r tirlun gyda’u cyfraniadau ‘benywaidd’ a ‘gwrywaidd’, gan yn gydamserol ddatgymalu rhywfaint o’r fytholeg rywedd ymhlyg yn yr ymrafael.

Dadleua’r archaeolegydd Laura McAtackney fod gan waliau mewn cymdeithas ranedig, fel Gogledd Iwerddon, swyddogaeth ddeuol: ar un llaw, trwy gartrefu murluniau a graffiti, maent yn ddulliau o gyfathrebu, ond hefyd, yn fwy negyddol, gellir eu portreadu fel gwahanfuriau sydd yn hybu ‘self-containment and isolation that deny multiple-perspectives and acknowledgement of shared…narratives.’  Yn sicr mae profiadau merched yn y Troubles yn rhan o’r ‘shared narrative’ traws-gymunedol yma, ond yn un sy’n stryffaglu i groesi ffiniau murluniol a sectyddol.  Mae Bill Rolston, cymdeithasegydd sydd yn arbenigo mewn diwylliant gwleidyddol poblogaidd Gwyddelig, o’r farn fod absenoldeb merched o ddisgwrs gweledol Teyrngarol yn ‘tantamount to silence’.  Perygl hyn, gan ategu McAtackney, yw mygu’r tebygrwydd rhwng profiadau Catholigaidd a Phrotestannaidd.  Er enghraifft, tra’r oedd merched dosbarth gweithiol y caeadau bin yn chwarae rhan yn y rhyfela trefol ar yr ochr Weriniaethol, roedd eu cymheiriaid Unoliaethol hefyd yn brysur yn yr ymgyrch ‘ryfel’.  Mewn cyfweliad yng Nghanolfan Ferched Ffordd Shankill yn 2013 nododd Eileen Weir, a fagwyd yn y gymuned Brotestannaidd honno, ei bod wedi ymuno efo’r Ulster Defence Association (UDA) Teyrngarol ddechrau’r 1970au, a’i dyletswyddau oedd gofalu am yr henoed ac arsylwi merched ifanc i sicrhau nad oedd unrhyw ‘hanky panky’ yn mynd ymlaen gyda pharafilwyr oedd ar ddyletswydd yn gwarchod ‘no-go areas’.  Adleisir y math yma o blismona moesol yn nofel Anna Burns, Milkman (2018), sy’n seiliedig ar ei phrofiadau hi o’i phlentyndod Catholig yn Belfast a chlawstroffobia byw mewn cymuned oedd wedi’i sylfaenu ar fawrygu parafilwyr Gweriniaethol, a lle’r defnyddiwyd gossip fel arf i reoli ymddygiad a chymeriad merched.  Awgryma’r esiamplau hyn fod y naill ochr i’r hafn sectyddol wedi’u crisialu gan geidwadaeth foesol.

Bellach, yn arbennig yn dilyn Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn 1998, mae cymdeithas Gogledd Iwerddon yn un llai milwriaethus.  Byddai’n rhwydd dadlau fod y pwyslais cynyddol ar gymodi a gwleidydda cyfansoddiadol wedi creu atmosffer mwy croesawus i ferched.  Ond, er fod y rhod wedi troi mewn nifer o ffyrdd, fel mae’r cipdrem yma wedi dangos, roedd merched yn perfformio rhychwant o swyddogaethau yn yr ymrafael ers y cychwyn.  Nid ategolyn bach ffrili a neis, gyda diwedd ‘hapus’ i’w stori, yw eu hanes.  Yn hytrach mae’r prism rhywedd yn un cwbl ganolog i arddangos cymhlethdodau a heterogenedd y Troubles a’r paradeim diwylliannol Gwyddelig yn ystod yr 20fed ganrif.

No comments:

Post a Comment