Croeso bawb i ail rifyn 1884!
Friday, 15 May 2020
Croeso
Nôl ym mis Chwefror dathlodd Prifysgol
Bangor fis hanes LGBTQ+. Er mwyn nodi’r
achlysur pwysig hwn fe benderfynom ni yma yn 1884 sylfaenu’r ail rifyn o’r
cylchgrawn o amgylch themâu LGBTQ+ a rhywedd.
Mae’r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys erthygl
arbennig iawn sydd wedi’i chyfrannu gan Dr Daryl Leeworthy, sydd yn gymrawd
ymchwil yn Mhrifysgol Abertawe. Ymwelodd
Dr Leeworthy â Bangor nôl yn Chwefror i draddodi seminar ymchwil fel rhan o fis
hanes LGBTQ+, ac yn garedig iawn mae wedi cyflwyno fersiwn o’i gyflwyniad i ni
ar ffurf erthygl. Mae Rhifyn 2 hefyd yn
cynnwys erthyglau gan staff a myfyrwyr, gan ymgorffori rhychwant eang o themâu:
o frenhinoedd Stiwartaidd hoyw i LGBTQ+ yn y gymuned sipsi. Diolch unwaith eto i’n cyfranwyr i gyd.
Hoffem hefyd gymryd y cyfle i ddiolch i
gymdeithas LGBTQ+ y Brifysgol, gan gynnwys Alaw Dafis a Tadgh Crozier am eu
cefnogaeth ac arweiniad gyda’r rhifyn.
Ni allem fod wedi gallu cyflawni hyn heb eu cymorth!
Gan obeithio’ch gweld yn yr haf!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment