Cai Davies
BA Cymraeg a
Hanes
Dyma
draethawd a baratowyd gan yr awdur ar gyfer modiwl CXC–1019 ‘Llenyddiaeth yr
Oesoedd Canol’ yn Ysgol y Gymraeg.
This is a
critical evaluation of Gruffudd ab yr Ynad Coch’s elegy to Llywelyn ap Gruffudd
(Llywelyn the Last). Llywelyn is considered to be the last ‘Welsh’ prince of
Wales, and died in battle at Cilmeri in 1282, in the course of conquest of
Wales by Edward I. This is an essay prepared by the author for a module in the
School of Welsh on the Literature of the Middle Ages.
Fel brodor o Dalwrn, ar Ynys Môn, mae’r enw Gruffudd ab yr
Ynad Coch yn taro tant arbennig â mi. Yn wir, byddwn i’n pasio’r gofeb a godwyd
er cof iddo bob bore wrth deithio yn y car er mwyn mynd i’r ysgol ym Mangor, a
hynny heb sylweddoli ar ddylanwad pellgyrhaeddol y dyn hwnnw ar ein gwlad –
awdur marwnad Llywelyn ap Gruffudd – ‘y gerdd Gymraeg enwocaf a luniwyd
erioed’, yn ôl Peredur Lynch.[1]
Yn y traethawd hwn, hoffwn fwrw golwg dros gefndir y bardd a’r farwnad, cyn
mynd ati i ddadlau y dylid ystyried hon yn gerdd fawr: nid yn unig am y ffaith
bod Gruffudd yn sylwebu ar y digwyddiad mwyaf arwyddocaol, o bosib, yn hanes
Cymru, ond hefyd am y ffordd yr aiff y bardd ati i roi gwedd newydd ar
farnwadu’r Gogynfeirdd tra’n tynnu ar gonfensiynau’r canu hwnnw’r un pryd.
Byddaf hefyd yn dadansoddi’r damcaniaethau sydd wedi eu cynnig am yr ‘angerdd
trallodus’ hwnnw sy’n treiddio’r gerdd;[2]
gan greu gorchestwaith, sy’n parhau i ‘apelio at y glust, y meddwl a’r galon’
hyd heddiw.[3]
Fel y nodir ar y garreg goffa yn Nhalwrn, un o’r un ardal â
mi oedd Gruffudd ab yr Ynad Coch.[4]
Hanai Gruffudd o deulu enwog o gyfreithwyr Cymreig – ‘Llwyth Cilmin Droetu’ – a
gysylltid ag ardal Llanddyfnan, er bod ganddynt, fel minnau, gysylltiad agos
iawn hefyd â’r tir mawr yr ochr draw i’r afon Fenai, gan mai o ardal cwmwd Uwch
Gwyrfai yn Arfon yr oeddynt yn wreiddiol.[5]
Mae lle i gredu mai’r rheswm bod tad Gruffudd, Madog Goch Ynad, wedi symud o
Arfon i ardal Llanddyfnan oedd ei fod wedi derbyn tiroedd yno;[6]
ac felly, o bosib, yn rhodd gan dywysog Gwynedd i gyd-fynd â swydd ynadol a
gafodd ym Môn.[7]
Fodd bynnag, gan mai’r arferiad yn ystod y cyfnod hwn oedd i fab ddilyn
galwedigaeth eu tad, mae’n debygol iawn felly i Gruffudd, yn ogystal â bod yn
fardd, ddilyn ei dad a bod yn ynad llys i dywysogion Gwynedd. Yn ddiddorol
ddigon, perthyn pell iddo oedd Einion ap Madog ap Rhahawd, a ganodd awdl i
Gruffudd ap Llywelyn, tad gwrthrych y farwnad hon.[8]
‘Achlysur aruthr yn hanes gwleidyddol Cymru’[9]
– dyna’r modd y disgrifiodd Bobi Jones farwolaeth Llywelyn ap Gruffudd. Ymateb
a wna’r bardd yn y farwnad hon i’r digwyddiad enbyd hwnnw ar yr 11eg o Ragfyr,
1282 – yr hoelen olaf yn arch y dywysogaeth gynhenid Gymreig. Serch hynny,
dadleua Bobi Jones bod y farwnad a ganodd Gruffudd am y ‘trychineb’ mawr hwnnw
‘hyd yn oed yn fwy’[10]
– tipyn o gamp i ‘[f]ardd amateur’,
chwedl R. Geraint Gruffydd![11]
Wrth gwrs, deillia llawer o’r bri a roddir ar y gerdd hon o’r ffaith ddiymwad
bod Gruffudd yn myfyrio ar brif ddigwyddiad gwleidyddol hanes Cymru.[12]
Ond, credaf bod rheswm arall am fawredd y gerdd hon, sef yr elfen bersonol gref
a geir ynddi – nodwedd sy’n gwneud i’r gerdd sefyll allan fel ‘seren olau
ynghanol mwrllwch canu astrus y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg’,
chwedl Nerys Ann Jones.[13]
Cynigiodd Nerys Ann Jones hefyd mai’r rheswm am y ‘dieithrwch’ hwnnw sy’n
perthyn i’r farwnad hon yw’r ffaith nad oedd Gruffudd yn fardd wrth ei
alwedigaeth, a’i fod, o ganlyniad, yn rhydd o ‘hualau confensiwn a thraddodiad’
canu’r Gogynfeirdd ‘i ddwyn elfennau newydd i’w farddoniaeth ac i ganu’n
bersonol a theimladwy’.[14]
Gellir ymdeimlo ag ing personol y bardd ar ei fwyaf grymus yn
y rhan a alwyd gan Bobi Jones yn ‘y drasiedi bersonol’ – dyfynnaf ran ohoni
isod:[15]
Oer galon dan fron o fraw –
allwynin
Am frenin, dderwin ddôr, Aberffraw.
Aur dilyfn a dalai o’i law,
Aur dalaith oedd deilwng iddaw,
Eurgyrn eurdëyrn ni’m daw, – llewenydd:
Llywelyn; nid rhydd im rwydd wisgaw.
Gwae fi am arglwydd, gwalch diwaradwydd;
Gwae fi o’r aflwydd ei dramgwyddaw.
Gwae fi o’r golled, gwae fi o’r dynged,
Gwae fi o’r clywed fod clwyf arnaw.
Gwersyll Cadwaladr, gwaesaf llif daradr,
Gwas rhudd ei baladr, balawg eurllaw.
Gwasgarawdd alaf, gwisgawdd bob gaeaf
Gwisgoedd amdanaf i amdanaw.[16]
Fel y nododd Rhian Andrews a Catherine McKenna, agoriad
‘ffurfiol a thraddodiadol’ a geir i’r farwnad,[17]
lle sefydla’r bardd ‘nifer o brif themâu’r awdl’ yn ogystal â’r ‘ymdeimlad o
arswyd sydd yn hydreiddio’r gerdd’.[18]
Clywir hyn yn ddiau yn yr odl fewnol iasol yn y frawddeg gyntaf a’r brifodl
wyfolus ‘-aw’.[19]
Serch hynny, ymollynga’r bardd ‘yn ddramatig yn ei alar’ wedi datgan enw
Llywelyn yn llinell 5.[20]
Yn ôl Bobi Jones, try’r bardd yna ‘o’r gwrthrychol […] at y goddrychol’,[21]
ac mae’r ebychiadau a wëir ynghyd yma gan y cymeriad llythrennol ‘gw-’ yn
cyfleu’r gwewyr sy’n parlysu’r bardd yn ei brofedigaeth bersonol.[22]
Heb os, drwy droi confensiwn canu marwnadol y Gogynfeirdd ar ei ben drwy
ganolbwyntio ar ing olaf Llywelyn a’r presennol enbyd yn hytrach nag ymhyfrydu
ym muddugoliaethau’r tywysog a’i orffennol gogoneddus, ychwanegir dwyster
gwefreiddiol at y dweud grymus.[23]
Er gwaethaf hyn, wrth edrych yn fwy trylwyr ar y farwnad,
daw’n amlwg nad yw’r modd yr aiff y bardd i gyfleu’i brofiad arteithiol mor
anghyffredin â hynny o’i gymharu â chanu marwnadol beirdd y Tywysogion. Yn wir,
fel yr eglura Nerys Ann Jones, mae ‘defnyddiau crai “Marwnad Llywelyn” yn gwbl
draddodiadol’.[24]
Dengys Nerys Ann Jones hefyd mai moli’r rhinweddau traddodiadol a ddisgwylid
mewn arglwydd yn unol â chonfensiwn yr oes a wna’r bardd yn y portread
agoriadol o Lywelyn.[25]
Wrth bwysleisio cadernid Llywelyn, cydymffurfia’r bardd â chonfensiwn y
Gogynfeirdd yn y cyfeiriad at y Gadwyn Bod yn yr epithed ‘dderwin ddôr’ yn
llinell 2, a’i hawl fel tywysog yn y cyfeiriadau at lys a llinach frenhinol
Llywelyn – Aberffraw – ac yna at un o’i gyndeidiau – Cadwaladr Fendigaid ap
Cadwallon, brenin Gwynedd yn ystod y seithfed ganrif. Mae hyn nid yn unig yn
pwysleisio gwychder ach Llywelyn ymhellach ond hefyd yn dyfnhau’r
gwrthgyferbyniad rhwng ‘gwynfyd y gorffennol a’r presennol adfydus’ a gyflëir
yn gynnil gan y cymeriad ‘aur/eur-’ yn llinellau 3-5.[26]
Yn ogystal â hyn, cadarnheir awdurdod Llywelyn dros Gymru gyfan yn y cyfeiriad
at goron Aberffraw yn ‘aur dalaith’. Llywelyn, wrth gwrs, oedd y tywysog
cynhenid Cymreig cyntaf i’w gydnabod gan Frenin Lloegr fel ‘Tywysog Cymru’ yn
1267, er y mae’n deg dweud mai’r uchelgais hwn oedd ganddo oedd ei hamartia: y taliadau hyn a oedd ynghlwm
â Chytundeb Trefaldwyn oedd un o’r prif resymau am ei gwymp.[27]
P’run bynnag, cyfeiria’r bardd at nodwedd gonfensiynol arall a folir yn frwd
gan y Gogynfeirdd, sef haelioni’r noddwr a’i berthynas agos gyda’r bardd, a
gyflëir yn sŵn y gynghanedd rydd yn y cyhydedd hir yn llinell 14, wrth i’r
bardd dderbyn rhodd o ddillad gan Llywelyn.[28]
Amlyga’r adran hon mai ‘i brif ffrwd y traddodiad barddol y
perthyn elfennau crefft Gruffudd’, fel y pwysleisia Nerys Ann Jones.
Traddodiadol hefyd yw’r mesurau a ddefnyddia’r bardd a’r ffordd y mae’n eu
saernïo ynghyd, fel y gwelir yn llinellau cyntaf y gerdd, lle y dechreuir gyda
thoddaid yn llinellau 1 a 2, cyn newid yn sydyn i gydydedd fer yn llinellau 3 a
4, cyn eu gweu ynghyd gyda rhediad hir o gyhydedd hir. Serch hynny, yr hyn sy’n
unigryw yw’r ffaith y defnyddia’r bardd pob un o’r chwe mesur a geid yng
nghanu’r Gogynfeirdd yn y farwnad hon. Yn wir, dyma ddangos bod Gruffudd yn
defnyddio pob un o’r dyfeisiadau barddol a etifeddodd i’w ddiben ei hun – gan
dderbyn ac ehangu ar y traddodiad barddol.[29]
Agwedd arall nad ydyw’n nodweddiadol o ganu’r Gogynfeirdd sydd yn y gerdd hon yw’r
‘angerdd anghyffredin’ sy’n treiddio drwyddi. Mae’r angerdd hwn yn ddiau ar ei
fwyaf ysgytwol yn y darn a fedyddiwyd gan Bobi Jones yn ‘y drasiedi gosmig’ -
sydd, yn ôl Bobi Jones, ymhlith un o’r darnau ‘enwocaf yn ein llenyddiaeth’:[30]
Poni welwch-chwi hynt y gwynt
a’r glaw?
Poni welwch-chwi’r deri’n ymdaraw?
Poni welwch-chwi’r môr yn merwinaw – ’r tir?
Poni welwch chwi’r gwir yn ymgyweiriaw?
Poni welwch-chwi’r haul yn hwylaw – ’r awyr?
Poni welwch-chwi’r syr wedi r’syrthiaw?
Poni chredwch-chwi i Dduw, ddyniaddon ynfyd?
Poni welwch-chwi’r byd wedi r’bydiaw.[31]
Heb os, dyma ran fwyaf dramatig y farwnad, wrth i’r bardd
ymbil ar ei wrandawyr os y gwelent hwythau hefyd arwyddion fod diwedd cyfnod
wedi dod yn sgil marw Llywelyn, gan gadarnhau anobaith y bardd mai ‘diwedd y
byd yw’r hyn a ddigwydd yng Nghilmeri’, fel y noda Bobi Jones.[32]
Wrth i ‘gynnwrf mewnol blaenorol y bardd’ droi’n ‘gynnwrf allanol
apocalyptaidd’,[33]
daw’n amlwg bod rhywbeth mwy cyntefig ar waith wrth i’r bardd ‘ymdeimlo â
grymusterau ysbrydol yn hyrddio trwy’r cread’ a thrwy’i fywyd ei hun wrth i’r
byd o’i gwmpas gael ei ysgwyd i’w seiliau. Cyflëir hyn gan rhythmau dirdynnol
odlau mewnol llinell 63, a chlec y gynghanedd rydd gyda’r cytseinedd trawiadol
ar y llythyren ‘d’ yn y gyhydedd fer yn llinell 64.[34]
Serch hynny, daw’n amlwg hefyd bod rhywbeth arall ar waith yn y darn yma. Er
mai marwnad seciwlar yw hon, ceir yr un ymdeimlad yn y gerdd hon a nodwedda’r
chwech o awdlau crefyddol a briodolir ar Gruffudd, wrth i’r bardd ‘uniaethu
tranc Llywelyn â diwedd y byd’, sy’n adleisio, yn ôl Peredur Lynch, y syniadau
cyffredin a geid yn Ewrop yr Oesoedd Canol y byddai arwydd yn ymddangos ar bob
un o’r pymtheg diwrnod diwethaf cyn Dydd y Farn.[35]
Gellir dadlau felly mai arswyd y bardd o faich pechod a’i ganlyniadau sy’n
achosi’r angerdd yma, wrth iddo geisio dirnad llawn arwyddocâd marwolaeth
tywysog olaf Cymru.[36]
Mae’n debygol iawn hefyd mai ymlyniad personol y bardd wrth
Llywelyn yw’r hyn sy’n achosi’r fath angerdd yn y canu. Serch hynny, awgrymodd
R. Geraint Gruffydd hefyd y posibilrwydd bod yr ymlyniad hwnnw, a oedd ‘wedi
gwegian dros dro ryw bum mlynedd ynghynt’ wedi miniogi’r angerdd.[37]
Damcaniaethir gan nifer bod Gruffudd wedi chwarae rhan yn y brad a arweiniodd
at farwolaeth Llywelyn. Yn ôl J. Beverley Smith, ceir ‘cofnod […] sy’n nodi i
Edward I estyn swm o 20 punt am ryw wasanaeth a gyflawnodd gŵr o’r enw Gruffudd
ab yr Ynad’.[38]
Awgryma hyn felly bod Gruffudd wedi ochri ag Edward I yn ystod ymgyrch
ddinistriol gyntaf Brenin Lloegr yng Nghymru yn 1277.[39]
Cynigia Nerys Ann Jones mai’r hyn sy’n gyfrifol am yr angerdd hwn yn y gerdd yw
bod cydwybod y bardd yn ei bigo, ac mae’n bosib olrhain ‘atgno cydwybod’ y
bardd, chwedl Bobi Jones,[40]
yn y pwt canlynol sydd tua diwedd y farwnad:[41]
Bychan lles oedd im, am fy
nhwyllaw,
Gadael pen arnaf heb ben arnaw.
Pen pan las, ni bu gas gymraw,
Pen pan las, oedd lesach peidiaw;
Pen milwr, pen moliant rhag llaw,
Pen dragon, pen draig oedd arnaw,
Pen Llywelyn deg, dygn a fraw – i’r byd
Bod pawl haearn trwyddaw.[42]
Haera Bobi Jones yn ddi-flewyn-ar-dafod mai ‘bradwr
edifeirol’ a luniodd ‘‘y gerdd fwyaf’’ yn yr iaith Gymraeg’.[43]
Fel y dywed Nerys Ann Jones, gellir dehongli’r lleihad yn llinell 85 a’r
sangiad awgrymog ‘am fy nhwyllaw’ o bosib yn gyfeiriad at boen cydwybod y
bardd. Wedi dweud hynny, fel y cyfaddefa Nerys Ann Jones, ‘er mor gyffrous yw’r
ddamcaniaeth, sigledig yw’r dystiolaeth’. Pwysig hefyd yw peidio
gorbwysleisio’r ffaith bod Gruffudd wedi troi’i gefn ar Lywelyn ychwaith, gan
fod cyfnewid teyrngarwch yn digwydd yn gyson yn yr oes.[44]
Yn hytrach, credaf mai’r hyn sy’n rhoi awch i’r angerdd grymus sy’n treiddio’r
rhan a ddyfynnwyd uchod yw’r braw a gaiff y bardd, nid yn unig wrth ddirnad y
ddelwedd frawychus yn llinell 92 o ben Llywelyn a arddangoswyd yn wawdlyd ar
ben Tŵr Llundain, ond hefyd wrth amgyffred arwyddocâd pellach lladd Llywelyn –
‘digwyddiad diamheuol fawr’ oedd yn drobwynt nid yn unig yn ei fywyd ei hun ond
hefyd ym mywyd ei genedl gorfychiedig.[45]
I gloi felly, does dim dwywaith nad yw marwnad Gruffudd ab yr
Ynad Coch i Lywelyn ap Gruffudd yn haeddu ei lle ymysg gorchestweithiau pennaf
y beirdd Cymraeg a ‘[ch]erddi mawr y byd’.[46]
Yn ddiau, trwy gyfuniad o’r elfen bersonol a hen gonfensiynau’r Gogynfeirdd, llwydda
Gruffudd i ganu’r ‘farwnad fwyaf nodedig mewn unrhyw lenyddiaeth’,[47]
chwedl Gwyn Thomas – campwaith sydd nid yn unig yn farwnad ‘i Lywelyn, eithr i
Gymru hefyd’, fel y nododd Bobi Jones.[48]
Ceir mynegiant dwys o drasiedi bersonol yn ogystal ag un genedlaethol ynddi
‘fel pe bai holl angerdd ac urddas llenyddiaeth y gorffennol yng Nghymru wedi
ymgrynhoi i esgor […] ar ddatganiad celfydd o brofiad gweledigaethus cwbl
newydd’.[49]
Yn wir, mae’r modd y mae’r bardd yn dilyn trefn confensiynau canu’r Gogynfeirdd
ar un wedd, ond hefyd yn gallu rhoi bywyd newydd i’r fframwaith traddodiadol,
llenyddol hwnnw’r un pryd, drwy angerdd bwerus ei ganu, yn arwydd o fardd mawr
tu hwnt. Heb os, mae’r dyn hwnnw, sydd â’i enw wedi’i naddu ar y gofeb honno yn
Nhalwrn, wedi cael effaith arwyddocaol, nid yn unig ar lenyddiaeth a hanes ein
cenedl, ond hefyd ar ein hunaniaeth fel Cymry, gan sicrhau y byddai’r freuddwyd
i ad-ennill ein rhyddid a’n hannibyniaeth fel gwlad eto yn aros yn fyw yn ein
meddyliau.
[1] Bu’r
Athro Peredur Lynch yn trafod y farwnad ar y rhaglen ddogfen ‘Llywelyn ein Llyw
Olaf’, y bumed bennod o’r gyfres deledu Tywysogion,
cyf. Angharad Anwyl, Ffilmiau’r Bont,
darlledwyd gyntaf 6 Mawrth 2017, ac mae hi hefyd ar gael ar hyn o bryd ar BBC
iPlayer, https://www.bbc.co.uk/iplayer/
episode/p05pvgr9/tywysogion-cyfres-2007-llywelyn-ein-llyw-olaf; <cyrchwyd
ar 27 Mawrth 2019>.
[2] Rhian
M. Andrews a Christine McKenna, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’ yn R. Geraint
Gruffydd (gol.), Gwaith Bleddyn Fardd a
Beirdd Ail Hanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol
Cymru, 1996), t. 414.
[3] Nerys
Ann Jones, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, Barn,
374 (Mawrth 1994), t. 52.
[4] Alan
Fryer, ‘Cofeb Gruffudd ab yr Ynad Coch Memorial Talwrn’, https://www.geograph.org.uk/
photo/409064; <cyrchwyd ar y 21 Mawrth 2019> – Gellir gweld
ffotograff a dynnwyd o’r gofeb, a godwyd er cof i Gruffudd, yng nghanol hen
sgwâr y pentref ar y wedudalen hon, ac fe welwch chi y camsillafwyd enw cyntaf
y bardd ar y garreg goffa, yn eironig ddigon!
[5] Rhian
M. Andrews a Christine McKenna, Rhagymadrodd i ‘Gwaith Gruffudd ab yr Ynad
Coch’ yn R. Geraint Gruffydd (gol.), Gwaith
Bleddyn Fardd a Beirdd Ail Hanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd: Gwasg
Prifysgol Cymru, 1996), t. 409.
[6] Sara
Elin Roberts, ‘Mon yn yr Oesoedd Canol: ‘Buarth baban beirdd’, http://www.angleseyheritage.com/
voices/sara-elin-roberts/2013/01/the-medieval-poet/?lang=cy; <cyrchwyd
21 Mawrth 2019>.
[7] Andrews
a McKenna, Rhagymadrodd, t. 409.
[8] Ibid.
[9] Bobi
Jones, Ysbryd y Cwlwm, t. 99.
[10] Ibid.
[11] R.
Geraint Gruffydd, ‘Beirdd y Tywysogion’, Llên
Cymru, 18 (1994), t. 36.
[12] Bobi
Jones, Ysbryd y Cwlwm, t. 97.
[13] N.A.
Jones, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, (Mawrth 1994), t. 52.
[14] Ibid.
[15] Bobi
Jones, Ysbryd y Cwlwm, t. 99.
[16] Thomas
Parry (gol.), The Oxford Book of Welsh
Verse, (Oxford: Oxford University Press, 1962), tt. 45-6.
[17] Andrews
a McKenna, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, t. 415.
[18] Nerys
Ann Jones, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, Barn,
376 (Mai 1994), tt. 36.
[19] N.A.
Jones, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, (Mawrth 1994), t. 52.
[20] Andrews
a McKenna, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, t. 415.
[21] Bobi
Jones, Ysbryd y Cwlwm, t. 101.
[22] Ibid.,
t, 94.
[23] N.A.
Jones, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, (Mawrth 1994), t. 53.
[24] Ibid.,
t. 52.
[25] Ibid.
[26] Ibid.
[27] Lynch,
‘Llywelyn ein Llyw Olaf’.
[28] N.
A. Jones, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, (Mawrth 1994), t. 37.
[29] N.
A. Jones, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, (Mawrth 1994), t. 52.
[30] Bobi
Jones, Ysbryd y Cwlwm, t. 108.
[31] Parry,
Oxford Book of Welsh Verse, t. 47-8.
[32] Bobi
Jones, Ysbryd y Cwlwm, t. 94.
[33] Andrews
a McKenna, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, t. 416.
[34] Gwyn
Thomas, Y Traddodiad Barddol
(Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1976), t. 135.
[35]
Peredur Lynch, ‘Llywelyn ein Llyw Olaf’, o’r gyfres deledu Tywysogion,
Ffilmiau’r Bont, https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p05pvgr9/tywysogion-cyfres-2007-llywelyn-ein-llyw-olaf;
<cyrchwyd 27 Mawrth 2019>.
[36] Andrews
a McKenna, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, t. 415.
[37] Gruffydd,
‘Beirdd y Tywysogion’, t. 36.
[38] Bobi
Jones, Ysbryd y Cwlwm, t. 97.
[39] Andrews
a McKenna, Rhagymadrodd, t. 409.
[40] Bobi
Jones, Ysbryd y Cwlwm, t. 97.
[41] N.A.
Jones, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, (Mawrth 1994), t. 53.
[42] Parry,
Oxford Book of Welsh Verse, t. 48.
[43] Bobi
Jones, Ysbryd y Cwlwm, t. 97.
[44] N.A.
Jones, ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’, (Mawrth 1994), t. 53.
[45] Bobi
Jones, Ysbryd y Cwlwm, t. 93-4.
[46] Dienw,
‘Gruffudd ab yr Ynad Coch’, https://cy.wikipedia.org/wiki/Gruffudd_ab_yr_Ynad_Coch;
<cyrchwyd ar 20 Mawrth 2019>.
[47] Thomas,
Y Traddodiad Barddol, t. 135.
[48] Bobi
Jones, Ysbryd y Cwlwm, t. 114.
[49] Ibid.,
t. 99.
No comments:
Post a Comment