Monday 6 January 2020

Croeso

Croeso i rifyn cyntaf y cyhoeddiad newydd 1884, sydd yn cael ei arwain gan fyfyrwyr a’i olygu gan aelodau o’r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.
Yn y cyfnodolyn hwn rydym yn anelu i uno staff a myfyrwyr sydd â diddordeb yn y dyniaethau, ac mae’n fforwm wych i’r rheiny sy’n astudio pynciau yn yr Ysgol hon a thu hwnt.
Mae’r rhifyn cyntaf yma’n cynnwys erthyglau ar amrywiaeth ddifyr o bynciau, gan gynnwys figaniaeth, hanes China, caneuon rebelaidd Gwyddelig, cymuned ar-lein i lesbiaid, ac hefyd bapur ymchwil cynhadledd gan Dr Mark Hagger on ‘What the Normans did for us?’.
Rydym yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r rhifyn hwn, ac os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu yn y dyfodol cofiwch gysylltu efo ni (manylion cyswllt isod).
Welwn ni chi yn y rhifyn nesaf!
Tom Wilkinson-Gamble & Molly Southward

No comments:

Post a Comment