Showing posts with label Croeso. Show all posts
Showing posts with label Croeso. Show all posts

Friday, 15 May 2020

Croeso

Croeso bawb i ail rifyn 1884!

Nôl ym mis Chwefror dathlodd Prifysgol Bangor fis hanes LGBTQ+.  Er mwyn nodi’r achlysur pwysig hwn fe benderfynom ni yma yn 1884 sylfaenu’r ail rifyn o’r cylchgrawn o amgylch themâu LGBTQ+ a rhywedd.


Mae’r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys erthygl arbennig iawn sydd wedi’i chyfrannu gan Dr Daryl Leeworthy, sydd yn gymrawd ymchwil yn Mhrifysgol Abertawe.  Ymwelodd Dr Leeworthy â Bangor nôl yn Chwefror i draddodi seminar ymchwil fel rhan o fis hanes LGBTQ+, ac yn garedig iawn mae wedi cyflwyno fersiwn o’i gyflwyniad i ni ar ffurf erthygl.  Mae Rhifyn 2 hefyd yn cynnwys erthyglau gan staff a myfyrwyr, gan ymgorffori rhychwant eang o themâu: o frenhinoedd Stiwartaidd hoyw i LGBTQ+ yn y gymuned sipsi.  Diolch unwaith eto i’n cyfranwyr i gyd.


Hoffem hefyd gymryd y cyfle i ddiolch i gymdeithas LGBTQ+ y Brifysgol, gan gynnwys Alaw Dafis a Tadgh Crozier am eu cefnogaeth ac arweiniad gyda’r rhifyn.  Ni allem fod wedi gallu cyflawni hyn heb eu cymorth!


Gan obeithio’ch gweld yn yr haf!


Tom Wilkinson-Gamble & Molly Southward

Monday, 6 January 2020

Welcome

Welcome to the first edition of the new publication 1884, which is being led by students and edited by members of the School of History, Philosophy and Social Sciences at Bangor University.
In this journal, we aim to bring together students and staff with an interest in the humanities, and it is a great forum for those studying subjects in this School and beyond.
This first issue contains articles on an exciting variety of subjects including veganism, Chinese history, Irish rebel songs, a social media lesbian community, humour in history, and includes a research conference paper by Dr Mark Hagger on ‘What the Normans did for us?’.
We hope you enjoy this issue, and if you’re interested in contributing in future please get in touch with us (contact details below).
See you in the next issue!
Tom Wilkinson-Gamble & Molly Southward

Croeso

Croeso i rifyn cyntaf y cyhoeddiad newydd 1884, sydd yn cael ei arwain gan fyfyrwyr a’i olygu gan aelodau o’r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.
Yn y cyfnodolyn hwn rydym yn anelu i uno staff a myfyrwyr sydd â diddordeb yn y dyniaethau, ac mae’n fforwm wych i’r rheiny sy’n astudio pynciau yn yr Ysgol hon a thu hwnt.
Mae’r rhifyn cyntaf yma’n cynnwys erthyglau ar amrywiaeth ddifyr o bynciau, gan gynnwys figaniaeth, hanes China, caneuon rebelaidd Gwyddelig, cymuned ar-lein i lesbiaid, ac hefyd bapur ymchwil cynhadledd gan Dr Mark Hagger on ‘What the Normans did for us?’.
Rydym yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r rhifyn hwn, ac os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu yn y dyfodol cofiwch gysylltu efo ni (manylion cyswllt isod).
Welwn ni chi yn y rhifyn nesaf!
Tom Wilkinson-Gamble & Molly Southward